Mae’n costio tua £2,000 y flwyddyn yn fwy i bobol fyw yng nghefn gwlad o’i gymharu â gweddill gwledydd Prydain, meddai cwmni yswiriant.

Mae ymchwil gan yr NFU Mutual yn dweud bod chwyddiant yng nghefn gwlad bron ddwywaith yn uwch nag mewn ardaloedd eraill.

Roedd y cwmni wedi cynnal arolwg o 1,300 o bobol a chasglu bod prisiau nwyddau a gwasanaethau sylfaenol yn codi’n gynt i drigolion ardaloedd gwledig – 7.5% o’i gymharu â 4.3% trwy wledydd Prydain.

Y cynnydd ym mhris trydan a thanwydd sydd benna’ ar fai, meddai’r cwmni, sy’n rhybuddio hefyd y gall y cynnydd effeithio’n drwm iawn ar bobol dlotach.

‘Mwy a mwy anodd’

“Mae ein casgliadau’n dangos bod gan bobol yn y wlad well ansawdd bywyd na phobol y trefi ond fod y costau sydd ynghlwm wrth hynny yn mynd yn fwy a mwy anodd i bobol sydd ar incwm is,” meddai Richard Percy, Cadeirydd NFU Mutual.

“Tra bod llawer o bobol sy’n amlwg yn fodlon talu’r premiwm gwledig yma, ac yn gallu fforddio gwneud hynny, mae llawer o bobol eraill mewn ardaloedd gwledig sydd heb y moethusrwydd o allu symud i rywle rhatach ac sy’n cael trafferth i gael dau ben llinyn ynghyd.”