Mae arolwg o feddygon teulu yng Nghymru yn dangos fod dros wyth o bob deg ohonyn nhw’n gwrthwynebu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wneud yn siwr fod meddygfeydd yn agor gyda’r nos ac ar benwythnosau.

At hynny, mae 98% o’r meddygon teulu a gafodd eu holi fel rhan o’r ymchwil ar ran plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, yn dweud nad ydi hi’n bosib gweithredu’r cynllun heb arian ychwanegol.

Mae 87% o feddygon teulu yn teimlo fod yr oriau agor presennol eisoes yn rhoi digon o gyfle i’r cyhoedd weld eu doctor. Yn ôl rhai, roedden nhw’u hunain hefyd wedi cynnal eu harolygon eu hunain yn gofyn barn eu cleifion – a does dim galw am wasanaethau gyda’r nos a phenwythnosau, medden nhw.

Tra bod 64% o’r meddygon teulu yn dweud fod dim angen cyflwyno’r cynllun hwn, roedd 37% yn dweud y byddai’n gynllun rhy gostus.

Barn yr arweinydd

Meddai Kirsty Williams, arweinydd  y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru: “Mae canlyniadau ein harolwg yn dangos yn glir nad yw’r Blaid Lafur wedi ystyried o ddifri’ eu polisïau cyn eu cyflwyno nhw i bobol Cymru. Cyflwyno’r gwasanaeth yma oedd un o’u prif bolisïau iechyd, a nawr mae disgwyl i’r meddygon teulu ei ddelifro.

“Mae’r gweinidog iechyd eisoes wedi datgan na fydd cost ychwanegol i’r cynllun hwn,” meddai Kirsty Williams wedyn. “Ond yn ôl ein harolwg ni, roedd bron iawn pob un o’r meddygon a ymatebodd yn dweud na ellir cyflwyno’r cynllun hwn heb arian ychwanegol.

“Mae’r rhan fwya’ o feddygon teulu Cymru yn teimlo fod eu horiau gwaith presennol yn rhoi digon o gyfle i gleifion ddod i’w gweld.

“Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn gefnogol iawn o unrhyw drefn sy’n gwneud pethau’n haws i bobol ddod i gysylltiad â’u meddygon teulu,” meddai Kirsty Williams.

“Gyda chynllun Llafur, cynllun sydd ddim wedi ei feddwl allan yn glir, does yna ddim ymgynghori wedi bod gyda’r meddygon teulu. Does yna neb wedi gofyn iddyn nhw pa mor fforddiadwy, a pha mor ymarferol, yw’r cynllun hwn.”