Canolfan Dechnoleg Amgen
Mae cynllun amgylcheddol sydd wedi’i greu yng nghanolbarth Cymru, wedi’i gydnabod gydag un o Wobrau Ynni RenewableUK.

Prosiect gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth ydi Zero Carbon Britain, ac mae wedi ennill gwobr am arwain y ffordd yn y maes.

Mae’r wobr yn datgan fod y cynllun yn “hybu ymgyrchu ardderchog ac arweinyddiaeth wrth geisio ennill cefnogaeth y cyhoedd i ddulliau amgen o greu ynni.” Cafodd ei ddisgrifio hefyd fel cynllun ysbrydoledig sy’n dangos y ffordd i weddill gwledydd Prydain.

“Wrth i gynhadledd Rio+20 ein hatgoffa ni am yr angen brys i ymateb i sialensau amgylcheddol, mae’r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn browd iawn fod ein cynllun a’n hymchwil Zero Carbon Britain wedi ennill gwobr,” meddai Paul Allen, cydlynydd y prosiect.

“Trwy edrych ar nifer o sectorau gwahanol o’r gymdeithas, rydyn ni’n edrych ar sut mae ymateb i anghenion yr amgylchedd trwy ddefnyddio gwyddoniaeth fodern.

“Mae’n dangos sut mae torri i lawr ein ôl-troed carbon, a sut y gellid rhoi hwb go iawn i economi gwledydd Prydain trwy edrych yn wahanol ar y ffordd yr ydyn ni’n byw a’r dewisiadau ydyn ni’n eu gwneud.”