Jamie Bevan yn ystod protest Cymdeithas yr Iaith
Mae disgwyl y bydd ymgyrchydd iaith yn mynd i’r carchar am yr ail dro y mis nesa’ – a hynny fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith tros ddyfodol S4C.

Y llynedd, fe dorrodd Jamie Bevan i mewn i swyddfa etholaeth Aelod Seneddol Ceidwadol Gogledd Caerdydd, Jonathan Evans, a chwistrellu slogan ar wal yr adeilad fel protest yn erbyn y newidiadau i S4C.

Fe gafodd ei orchymyn i dalu iawndal o dros £1,000 a chadw at gyrffyw, yn dilyn y digwyddiad hwnnw. Ond mae eisoes wedi treulio rhai dyddiau yn y carchar am wrthod cydymffurfio â’r gorchymyn tagio a chyrffyw.

Ac yn dilyn penderfyniad llys ym Merthyr Tudful fore heddiw, disgwylir iddo gael ei garcharu am gyfnod pellach ar Awst 13, gan ei fod yn dal i wrthod talu’r ddirwy wreiddiol.

“Dw i’n byw rhan helaeth o fy mywyd yn gyfreithiol ac yn drefnus, yn gweithio llawn amser, a mwy, yn dad cyfrifol a chariadus,” meddai Jamie Bevan heddiw.

“Ond dydw i ddim yn parchu trefn a chyfraith sydd yn dewis a dethol pwy maen nhw am eu hamddiffyn ac sy’n dewis pryd i weithredu’n ddemocrataidd neu beidio.

“Does dim amheuaeth bod ffafriaeth Jeremy Hunt at y Murdochs wrth ymosod ar yr unig sianel deledu Cymraeg yn gwbl annemocrataidd.”