Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi disgrifio penderfyniad Hufenfa Robert Wiseman i dorri’n ôl eto yr arian y mae ffermwyr yn ei dderbyn am eu llaeth, fel “gwarth llwyr ac ergyd farwol i’r diwydiant.

“Fe fydd y penderfyniad hwn yn cael effaith ddinistriol ar gynhyrchwyr llaeth a busnesau teuluol ffermydd llaeth,” meddai Dei Davies, Cadeirydd Pwyllgor Cynhyrchu Llaeth yr undeb, sy’n ffermio yn Sir y Fflint.

“Mae cyhoeddi y bydd Wiseman’s yn talu 1.7c y litr yn llai, yn dilyn y 2c y litr o ostyngiad gan Wiseman’s a Dairy Crest ym mis Ebrill eleni, yn dangos yn glir nad ydi cytundebau llaeth yn gweithio.

“Dydi proseswyr ddim yn atebol i neb, ac o fis Awst eleni, fydd Wisemans ddim ond yn talu 24.73c y litr am lefrith – mae hynny tua 5c y litr yn llai na chostau cynhyrchu.”

O safbwynt Wiseman…

Mae cwmni Robert Wiseman wedi rhoi’r bai ar y gostyngiad mawr yng ngwerth hufen am y gostyngiad yn faint o arian y maen nhw’n fodlon ei dalu am laeth.

Ond mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud fod ffermwyr llaeth ar i lawr, a bod angen edrych ar frys ar y cytundebau sy’n cael eu harwyddo rhwng cynhyrchwyr a phroseswyr.

“Pam ddylai ein ffermwyr llaeth ni orfod ysgwyddo’r baich dro ar ôl tro?” meddai Dei Davies.

“Mae’r cwmnïau yma’n chwarae Russian roulette efo dyfodol ein diwydiant ni.”