Mae tri o filwyr – dau o Fataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig ac un arall o’r Corfflu Signalau Brenhinol – wedi cael eu saethu’n farw yn Afghanistan.
Roedd y dyn arfog yn gwisgo gwisg heddlu Afghanistan. Fe ddigwyddodd yr ymosodiad wrth ymyl siecbwynt yn Nhalaith Hemland. Cafodd y milwyr eu trin ar y safle ond bu farw’r tri o’u hanafiadau.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod teulu’r milwyr wedi cael gwybod.
Mae’n ymddangos mai dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ymosodiadau lle mae plismyn neu swyddogion diogelwch Afghanistan wedi saethu at filwyr rhyngwladol.
Cafodd yr is-gorpral Lee Thomas Davies, 27, o Fataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig a’r Corpral Brent John McCarthy, 25, o’r Llu Awyr, eu saethu’n farw yn ardal Lashkar Gar yn nhalaith Helmand gan aelodau o heddlu Afghanistan ym mis Mai.
Ac ym mis Mawrth cafodd y Sarjant Luke Taylor, 33, a’r is-gorpral Michael Foley, 25 eu saethu’n farw gan filwr Afghanistan yn nhalaith Helmand.