Rastamouse
Mae cartŵn poblogaidd sydd wedi ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi ei gyhuddo o fod yn hiliol.

Mae rhaglen Rastamouse sianel Cbeebies wedi derbyn arian o Gronfa ED Creadigol Cymru ac yn gynnwys gwaith gan gwmni Dinamo o Bontypridd, sy’n cynhyrchu sawl rhaglen ar gyfer gwasanaeth Cyw S4C.

Yn ôl papur newydd y Daily Telegraph mae’r BBC wedi derbyn 95 o gwynion am yr iaith ar y rhaglen a chwech chwyn bod Rastamouse yn ystrydeb hiliol o bobl groenddu.

Mae’r gorfforaeth wedi wfftio’r cwynion gan ddweud bod y dafodiaith yn rhan o apêl y cymeriad i blant bach.

Mae seren y sioe, llygoden Rastaffariad, yn defnyddio ymadroddion gan gynnwys “me wan go”, “wagwan”, a “make a bad ting good”.

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC bod y llyfrau gwreiddiol wedi eu hysgrifennu mewn tafodiaith Garibïaidd a bod hynny wedi ei drosglwyddo i’r sianel teledu.

Mae Cbeebies yn anelu at “adlewyrchu bywydau bob un plentyn yn y wlad yma,” meddai.

Gwyliwch Rastamouse fan hyn.