Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, yn bwriadu torri nifer y pynciau Lefel-A fydd ar gael i’w dysgu yng Nghymru.

Yn ôl papur newydd Wales on Sunday fe fydd nifer y cyrsiau sydd ar gael yn cael eu cwtogi er mwyn rhoi’r pwyslais ar gymwysterau “safonol”.

Y nod yw rhoi pwyslais ar wyddoniaeth, mathemateg ac ieithoedd, gan dorri nôl ar bynciau ‘ysgafn” gan gynnwys astudiaethau cyfryngol, celf a busnes.

Fe fydd Leighton Andrews yn amlinellu’r cynllun yfory mewn araith i Estyn, y corff sy’n arolygu ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Mae disgwyl iddo gyfeirio at adroddiad gan grŵp lobio Russell Group, oedd yn dangos bod prifysgolion yn ffafrio pynciau craidd gan gynnwys mathemateg, Saesneg, gwyddoniaeth, hanes a daearyddiaeth.

“Onid yw’n amser i ganolbwyntio ar bynciau o safon, yn hytrach na chynnig dewis sydd ddim yn cwrdd â gofynion y dysgwyr?” meddai.

“O ystyried bod gan gyflogwyr bryderon ynglŷn â rhai cymwysterau galwedigaethol, a fyddai’n gwneud synnwyr lleihau nifer y cymwysterau sy’n cael eu dysgu o 14 i 19 oed, gan sicrhau fod ddigon o amser i ddysgu sgiliau sylfaenol hefyd?”