Mae mudiad Pobol yn Erbyn Wylfa B wedi beirniadu penderfyniad Horizon i chwalu tai gwag ger gorsaf niwclear Wylfa.

Mae Horizon wedi gwneud nifer o geisiadau i gyngor Ynys Môn er mwyn cael chwalu 28 o dai gwag sydd ar dir sy’n eiddo i’r cwmni.

Ond mae mudiad PAWB yn dadlau na ddylid chwalu’r adeiladau, ac y dylid eu cynnig yn dai ar gyfer pobol yr ardal.

“Mae PAWB yn feirniadol o benderfyniad Horizon i fwrw ymlaen â chwalu tai y maen nhw’n berchen arnynt ger gorsaf niwclear Wylfa,” meddai Dylan Morgan o’r mudiad.

“O ystyried bod cwmnïoedd RWE ac E.ON wedi cyhoeddi ym mis Mawrth nad ydyn nhw’n bwriadu adeiladu gorsaf Wylfa B, dyw hyn ddim gwell na fandaliaeth.”

Ers rhoi gorau i’w cynllun £8 biliwn i adeiladu Wylfa B, mae RWE ac E.ON wedi bod yn chwilio am fuddsoddwyr i gymryd rheolaeth dros gwmni Horizon.

Dywedodd pennaeth datblygu safle Horizon, Alan Smith, eu bod nhw’n obeithiol y bydd y cynlluniau i adeiladu gorsaf niwclear newydd yno yn mynd yn eu blaenau.

“Rydyn ni’n parhau â’r gwaith o baratoi Horizon ar gyfer y perchnogion newydd,” meddai wrth bapur newydd y Daily Post.

“Fel rhan o’r cynllun i ddatblygu safle Wylfa, rydyn ni wedi cyflwyno cais cynllunio er mwyn cael gwared ar nifer o dai gwag ar ein safle sydd ddim yn saff ac nad oes modd eu hatgyweirio.”