Daethpwyd o hyd i gorff dyn aeth ar goll wyth mis yn ôl mewn coedwig yn Sir Fynwy, meddai’r heddlu.

Dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw’n ystyried marwolaeth Richard Hancock, 41, o’r Fenni, yn un amheus. Roedd wedi bod ar goll ers 4 Mehefin y llynedd.

Cafodd yr heddlu wybod am y corff rhwng pentref Llanofer a Chamlas Sir Fynwy a Brycheiniog ddydd Gwener.

Dywedodd y teulu eu bod nhw wedi torri eu calonnau. Daethpwyd o hyd i’r corff ychydig ddyddiau ar ôl marwolaeth tad Richard Hancock, Bernard.

‘Cysur’

“Roedden ni wedi bod yn gobeithio a gweddïo y byddai Richard yn dychwelyd adref yn saff ers iddo fynd ar goll y llynedd,” meddai’r teulu mewn datganiad.

“Mae’r newyddion yn dorcalonnus yn enwedig ar ôl marwolaeth cynnar ei dad Bernard yr wythnos ddiwethaf.

“Gobaith Bernard wrth farw oedd y byddai ei fab yn dod adref, ond ddigwyddodd hynny ddim.

“Yr unig gysur yw eu bod nhw’n awr gyda’i gilydd.”