Bathodyn Heddlu Gwent
Fe fydd Aelod Cynulliad yn ceisio sicrwydd gan un o heddluoedd Cymru na fyddan nhw’n ailadrodd camgymeriad pan gafodd 10,000 o gofnodion CRB cyfrinachol eu hanfon at newyddiadurwr.

Ddydd Gwener fe gafodd Heddlu Gwent eu beirniadu gan Gomisiwn yr Heddlu yng Nghymru am eu methiant i warchod yr wybodaeth am gefndir troseddol yr unigolion.

Roedd y dogfennau’n datgelu bod 863 wedi cael cysylltiad gyda’r heddlu ac roedd rhai enwau a manylion hefyd yn y ffeiliau a oedd wedi eu hanfon trwy gamgymeriad ar e-bost at newyddiadurwr gyda phapur The Register.

Bwriad yr aelod o staff yr heddlu oedd anfon y ffeiliau o’r Swyddfa Cheofnodion Troseddol at bum plismon arall, ond doedd yr wybodaeth ddim wedi ei gwarchod yn iawn.

Eisiau sicrwydd

“Fe fydda’ i’n gofyn am atebion a sicrwydd gan Heddlu Gwent na fydd y math yma o weithred ddiofal yn digwydd eto,” meddai Veronica German, AC y Democratiaid Rhyddfrydol tros Ganol De Cymru.

“Rydyn ni wedi bod yn dweud ers tro y dylai awdurdodau cyhoeddus sy’n cadw gwybodaeth sensitif gael rheolau caeth i warchod pob data, gan gynnwys encryptio a gwirio priodol cyn anfon gwybodaeth ar e-bost.”

Ymddiheuro

Pan ddigwyddodd y camgymeriad ym mis Ebrill y llynedd, fe gafodd aelod o staff ei atal o’i waith ac fe ymddiheurodd yr Heddlu.

Yn ôl The Register, roedden nhw wedi dileu’r ffeiliau o fewn deuddydd i’w cael, ar ôl i’r heddlu gysylltu â nhw.