Bydd pentref Talybont yn cynnal Hwyl Haf mis nesaf er mwyn codi arian i gronfa apêl yn dilyn y llifogydd mawr yno yn gynharach mis yma.

Gwahoddwyd aelodau o 16 o wahanol sefydliadau neu gymdeithasau yr ardal i gyfarfod cymunedol wythnos diwethaf er mwyn trafod cynlluniau i godi arian.

“Roedd pawb a gafodd wahoddiad yn bresennol a phawb â’r teimlad o ‘beth allwn ni wneud’,” meddai un o’r trefnwyr, Gwilym Huws. “Penderfynwyd yn unfrydol i gynnal gweithgareddau amrywiol er mwyn cyfrannu tuag at y gronfa apêl.”

Bydd yr ŵyl yn cael ei rhannu’n ddwy gyda chwaraeon ar gyfer plant a phobl ifanc yn digwydd yng nghae’r ysgol, gyda barbeciw i ddilyn.

Yn y cyfamser bydd ‘te pnawn’ yn digwydd yn y Neuadd Goffa, gyda stondinau amrywiol, raffl a thombola.

Yn ychwanegol i hynny, bydd ocsiwn addewidion yn y neuadd goffa er mwyn rhoi mwy o gyfle i bobl gyfrannu tuag at y gronfa apêl.

‘Dŵr yn cyrraedd y nenfwd’

Mae digwyddiadau tebyg wedi bod yn digwydd yn y pentrefi cyfagos ond dyma’r digwyddiad mwyaf o’i math yn yr ardal ers i’r llifogydd daro ar ddechrau’r mis.

“Roedd yr ardal wedi ei tharo’n ddrwg,” meddai Gwilym Huws. “Roeddech chi’n gallu gweld y difrod oedd yna reit yng nghanol y pentref, a dŵr mewn rhai tai yn cyrraedd y nenfwd.

“Cafodd llawer o deuluoedd eu heffeithio a bu rhaid i lawer daflu eiddo personol  a phwysig iawn i ffwrdd. Mae’n dangos fod y pentref wedi tynnu at ei gilydd, yn gyntaf i helpu i lanhau’r tai ac yna i roi to uwchben y teuluoedd hynny a gollodd eu tai.”

Roedd noson yng nghwmni Tudur Owen eisoes wedi ei threfnu yng Ngwesty’r Llew Du, Talybont, ar gyfer nos Wener yma, 29 Mehefin. Mae ocsiwn bellach wedi ei threfnu ar gyfer y noson gyda’r elw’n mynd i gronfa apêl y llifogydd.

Bydd Hwyl Haf yn digwydd ar 8 Gorffennaf rhwng 2yh a 5yh.