Llyr Gruffydd
Mae’r Aelod Cynulliad Llŷr Gruffydd wedi croesawu adroddiad y pwyllgor Amgylchedd a Chynaladwyedd ar Ynni a Chynllunio yng Nghymru, er mwyn tynnu sylw at sut y mae Llywodraeth Cymru wedi “newid safbwynt dro ar ôl tro” ar faterion allweddol ynni.

Mae Llŷr Gruffydd, sy’n gynrychiolydd Plaid Cymru yng ngogledd Cymru, yn aelod o’r pwyllgor sydd wedi cyhoeddi’r adroddiad, ac yn croesawu llawer o’r argymhellion  “sydd yn gwneud cyfraniad pwysig i’r ddadl sy’n digwydd am ynni a’r rôl bwysig y gall ynni chwarae.”

Dywedodd Llŷr Gruffydd: “Mae’r adroddiad hwn yn gwneud llawer o argymhellion synhwyrol y dylai Llywodraeth Cymru weithredu arnynt yn syth.”

Mae’r adroddiad yn awgrymu sefydlu Bwrdd Cyflwyno Ynni Adnewyddol a Chynllun Adnoddau Naturiol i Gymru. Y gobaith yw y bydd mwy o sylw’n cael ei roi i “gynhyrchu ynni glân i Gymru”.

‘Galw am arweiniad cryf’

Mae’r adroddiad hefyd yn galw am “arweiniad cryf a diamwys gan Lywodraeth Cymru”. Mae’n cyhuddo’r Prif Weinidog, Carwyn Jones a Llywodraeth Cymru o wrthddweud eu hunain wrth gyflwyno tystiolaeth a roddwyd ynghylch Wylfa B yn Ynys Môn.

Ychwanegodd Llŷr Gruffydd fod “hyn wedi tanseilio eu hygrededd yn hynny o beth, ac y mae’n hanfodol yn awr eu bod yn datgan yn glir beth yw eu polisi a’u dyheadau am ddyfodol ynni yng Nghymru.”

Pwysleisiodd hefyd fod Plaid Cymru’n parhau i gredu y dylid datganoli pwerau dros ynni i Gymru.

“Rwyf yn gobeithio y bydd y Llywodraeth Lafur yn parchu argymhelliad yr adroddiad i gyhoeddi’r achos dros fwy o ddatganoli yn y maes hwn.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar rhan Llywodraeth Cymru: “Byddwn yn ymateb yn ffurfiol i’r adroddiad yma yn fuan.
“Fel gwnaethom ni esbonio yn ein gweledigaeth am ynni – Ynni Cymru – rydym am sicrhau bod gan ein cymunedau’r ynni maent angen trwy sicrhau ffynonellau newydd i gymryd lle gorsafoedd ynni sy’n heneiddio.

“Mae hefyd yn bwysig fod yr arian a fuddsoddwyd yn y sector yma yn sicrhau’r nifer mwyaf o swyddi a’r manteision mwyaf i’r cymunedau.

“Rydym am wella’r gyfundrefn cynllunio a chydsynio, a sicrhau y gall cymunedau gael gafael ar gyngor, arbenigedd ac arian er mwyn iddynt ddefnyddio ynni adnewyddadwy. Mae ynni adnewyddadwy yn cynrychioli cyfle euraid i’n heconomi a bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig arweiniad ac yn hybu enw da Cymru fel canolfan byd-eang ar gyfer ynni.”