Nid yw disgyblion mwy abl a dawnus yn cyflawni cystal yng Nghymru ag yn Lloegr, meddai adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Ychydig iawn o ysgolion uwchradd yng Nghymru sy’n cefnogi ac yn herio disgyblion mwy abl a dawnus, yn ôl yr adroddiad.

Yn yr ysgolion gorau, mae’r disgyblion mwyaf llewyrchus yn cyflawni uwchlaw’r lefel disgwyliedig ar gyfer eu hoedran yn ôl Estyn, y corff arolygu addysg a hyfforddiant Cymru.

O ganlyniad, mae canlyniadau cyffredinol arholiadau yn yr ysgolion hyn wedi gwella.

“Mae angen i ysgolion ystyried a ydynt yn cynnig yr ystod lawn o brofiadau a chyfleoedd i ddisgyblion a fydd yn eu galluogi nhw i gyrraedd eu potensial a ffynnu,” meddai Ann Keane, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

Ers 2008, mae asesiadau diwedd cyfnod allweddol 3 yn dangos nad yw digon o ddisgyblion yn cyflawni uwchlaw’r lefel disgwyliedig ar gyfer eu hoedran ym mhynciau craidd Cymraeg neu Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth.

Ar lefel TGAU, nid oes digon o ddisgyblion yn cyflawni graddau A* neu A yn y pynciau craidd hyn.

Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu diffyg parhad yn y pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd ar gyfer y disgyblion hyn. Yn y llefydd lle mae’r trefniadau pontio yn dda, mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar gyflawniad hirdymor disgyblion.

Mae Estyn wedi amlygu nifer o argymhellion ar gyfer ysgolion uwchradd, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru er mwyn herio dysgwyr mwy abl a dawnus i berfformio’n well.

Llai o fyfyrwyr Cymru’n cael eu derbyn i brifysgolion

Dywedodd yr AC Angela Burns, llefarydd y Blaid Geidwadol ar addysg, “Mae’r adroddiad yma’n dangos methiant y Gweinidog Addysg i fynd i’r afael â’r pryder sydd am y diffyg cefnogaeth i’n myfyrwyr mwyaf talentog.

“Mae ffigyrau gan brifysgolion gorau’r Deyrnas Unedig yn dangos fod llai o fyfyrwyr o Gymru’n cael eu derbyn, sy’n awgrymu fod ein pobl ifanc mwyaf dawnus yn tangyflawni,” meddai Angela Burns.

“Dylai’r Gweinidog Addysg ddechrau darllen yr adroddiadau yma a gwneud rhywbeth am y peth,” ychwanegodd.