Mae cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Ynys Môn heno i drafod ceisiadau dadleuol i godi tyrbinau gwynt yn yr ardal.

Y Cyngor Cymuned sydd wedi gofyn am y cyfarfod ac fe fydd un o’r trafodaethau’n canolbwyntio ar y cynllun i godi tyrbin 78 metr o uchder ym mhentref Machynys.

Bydd argymhellion y cyfarfod cyhoeddus heno’n cael eu cyflwyno gerbron y cyngor plwyf cyn gwneud penderfyniad i gefnogi neu wrthod y ceisiadau.

Y cynghorydd lleol John Foulkes sy’n cyflwyno’r tri chais am dyrbinau gwynt, ac mae llefarydd ar ran gwrthwynebwyr i dyrbinau gwynt yn Ynys Môn wedi ei feirniadu.

Meddai’r llefarydd: “Ry’n ni yno yn y cyfarfod heno i roi ein barn a holl bwrpas y cyfarfod yw tynnu sylw at geisiadau sy’n aml yn cwympo o dan drwynau pobl.”

Caiff y cyfarfod ei gynnal heno (nos Lun) am 7.30pm yn Neuadd Bentref Penmynydd.