Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn cynnal cyfres o sesiynau galw heibio er mwyn cynorthwyo pobl a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd yng nghanolbarth Cymru.
Bydd swyddogion o’r Asiantaeth ac o Gynghorau Sir Ceredigion a Gwynedd ar gael i wrando ar brofiadau pobl ac ateb eu cwestiynau.
Yn ogystal, bydd swyddogion yn gallu rhannu gwybodaeth a rhoi cyngor ar wasanaeth rybuddio llifogydd yr Asiantaeth, y camau ymarferol i’w cymryd ar ôl y llifogydd, ac ar sut i baratoi tuag at unrhyw lifogydd posib yn y dyfodol.
Dywedodd Graham Hillier o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, “Rydym eisiau ymestyn ein cydymdeimlad i’r bobl hynny a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd.
“Byddwn hefyd yn cynnig cyngor ar sut y gall bobl amddiffyn eu hunain yn well rhag unrhyw lifogydd yn y dyfodol.”
Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal ar heddiw yn:
- Borth – Boulders Café, 2.30-7.30yh
- Bryncrug – Neuadd yr Ysgol, 3.30-8.00yh
- Pennal – Y Ganolfan, 3.00-8.00yh
- Talybont – Neuadd y Pentref, 3.00-8.00yh
Bydd gweddill y sesiynau yn cael eu cynnal rhwng 3yh a 8yh ddydd Iau 21 Mehefin yn y Park Lodge Hotel yn Aberystwyth ac yn Neuadd y Pentref, Capel Bangor.