Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i ysgol gynradd ger Pen-y-bont ar Ogwr heddiw ar ôl i dân ddechrau mewn rhan o’r adeilad.

Mae criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dal i geisio diffodd y tân yn   Ysgol Gynradd Betws yn Llangeinor ar ôl cael eu galw yno am 2.30pm.

Mae’n debyg bod y disgyblion a’r staff yn ddiogel.

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod y tân wedi ei gyfyngu i un rhan o’r ysgol yn unig.

Mae nhw’n cynghori pobl sy’n byw yn yr ardal i gadw eu drysau a’u ffenestri ar gau.

Does dim manylion ar hyn o bryd beth oedd wedi achosi’r tân.