Bangor
Er bod y noswaith gyntaf o dan reolau sy’n  gwahardd pobol ifanc o ganol Bangor wedi bod yn dawel, nid felly’r ymateb ym myd y cyfryngau cymdeithasol.

Mae gwahanol farn wedi cael ei mynegi ar Facebook a Twitter, ac mae aelodaeth grŵp sydd yn erbyn y cyrffiw wedi codi i dros fil.

Ond mae aelodaeth grŵp sydd o blaid y gwaharddiad – ‘Huuraaay for the bangor curfew’ – efo llai o aelodau ar hyn o bryd, gyda 50.

Mae’r cynllun yn gwahardd pobl ifanc dan 16 oed o ganol dinas Bangor rhwng 9yh  a 6yb oni bai eu bod nhw yng nghwmni rhiant neu “oedolyn cyfrifol.”  Daeth gorchymyn gwasgaru Heddlu Gogledd Cymru  i rym nos Lun ac os na fydd pobl ifanc yn cydymffurfio yna fe fydd yr heddlu yn mynd a nhw adref neu i fan diogel os mai dyma fydd fwyaf addas.

‘Pwnc hollbwysig’

Mae’r fforwm cyhoeddus  wedi bod yn denu cyfraniadau gan gyfranwyr amrywiol o Fangor, gan gynnwys yr heddlu a phobol ifanc.

Ynghanol y dadlau a’r cwynion mae nifer o’r cyfranwyr yn pwysleisio fod y pwnc yn hollbwysig i gymunedau yng Nghymru a thu hwnt. Ni fydd y gwaharddiad yn mynd at wraidd y broblem medd rhai, ac mae nifer o  gymariaethau wedi bod gyda gwledydd unbenaethol – roedd papur y Daily Mail wedi cario’r pennawd:  “Gogledd Cymru nid Gogledd Korea”.

“Bangor dan ni’n sôn am nid Baltimore,” meddai un sylwebydd.

Mae’r stori wedi ennyn sylw eang ac wedi arwain at gyhuddiadau o ymosod ar hawliau sifil. Mae wedi ennyn diddordeb yn y dref a chynnydd sylweddol yn nefnydd yr ‘hashtag’ #Bangor.

Barn rhai yw ei fod yn arbrawf sydd o leiaf yn ceisio delio gyda phroblemau gwrth-gymdeithasol a bod angen amser cyn barnu ei lwyddiant.