Ni fydd cerflun dafad yn cael ei godi yn y Senedd ar ôl i’r ddeiseb oedd yn galw am hynny gau.

Roedd 17 o bobol wedi llofnodi deiseb y Parchedig Christopher Trefor Davies yn galw am godi cerflun o ddafad i gydnabod pwysigrwydd amaethyddiaeth i Gymru.

Ysgrifennodd Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler AC, at y pwyllgor deisebau i ddweud nad oedd y Senedd yn safle addas ar gyfer cerflun parhaol, ond y byddai modd codi cerflun dros dro ar yr amod bod y deisebwyr yn talu’r gost o’i adeiladu a’i osod.

Dywedodd un o aelodau’r pwyllgor, Joyce Watson AC, ei bod yn deall yr angerdd sydd wrth gefn y ddeiseb a bod amaeth yn rhan bwysig o fywyd Cymru.

“Ond wedi dweud hynny, mae gennym ni ganllawiau clir. Ni allwn ni gyflawni’r hyn y mae’r ddeiseb yn gofyn ac rwyf yn meddwl fod cau’r ddeiseb yn briodol,” meddai Joyce Watson.