Paol Molac
Mae’r cenedlaetholwr Llydaweg, Paol Molac, wedi ennill sedd ar ran yr Union Democratique Bretonne yn y senedd yn Ffrainc.

Yn ôl Dr Davyth Hicks, arbenigwr ar ieithoedd lleiafrifol a golygydd asiantaeth Eurolang, mae’r fuddugoliaeth etholiadol yn bwysig am amryw o resymau.

Mae’n gobeithio y gall yr iaith Lydaweg dyfu fel y mae’r iaith Gymraeg wedi gwneud.

“Gobeithio, yn sgil datganoli’r system addysg ac ati, y gallwn weld trobwynt yn nirywiad yr iaith a gweld adfywiad addysgol fel sydd wedi digwydd yng Nghymru.

“Os bydd hyn yn cael ei gefnogi gan y gyfraith,  dw i’n obeithiol y gallwn weld cynnydd cyflym yn  nifer y siaradwyr Llydaweg ifanc.”

Siarter Ieithoedd Lleiafrifol

Yn ddiweddar, dywedodd Arlywydd newydd Ffrainc, François Hollande, y byddai’r Sosialwyr yn cadarnhau Siarter Ieithoedd Lleiafrifol newydd.

Mae’n ymddangos fod addewidion cynnar Arlywydd Hollande wedi buddio cefnogwyr Llydaweg yn Ffrainc ac fe welir llwyddiant Paol Molac fel cam allweddol i hybu’r iaith Lydaweg yno.

Ymddengys fod sawl Llydäwr sy’n cefnogi’r iaith yn bresennol ar y Cabinet megis Jean-Yves Le Drian, y Gweinidog  Amddiffyn, a Marylise le Branchu, Gweinidog dros Ddatganoli.

“Mae llwyddiant Paol Molac yn fuddugoliaeth i fudiad eangach y Breton Emsav (mudiad cenedlaetholgar Llydaw),” meddai Dr Davyth Hicks.

“Ffigwr dylanwadol sydd â gwreiddiau cryf yn y gymuned yw Paol Molac, ac fe adlewyrchir hyn yn ei arweinyddiaeth ar fudiadau dwyieithrwydd mewn ysgolion a’i gadeiryddiaeth ar y Cyngor Diwylliannol Llydewig.

“Yn gyntaf, mae wedi llwyddo i ddod yn ddirprwy ar yr UDB. Mae hynny ynddo’i hun yn rhoi hwb seicolegol i bawb sy’n brwydro dros ei mamiaith ac yn dangos hefyd i’r cyhoedd ac i’r llywodraeth fod gan y mudiad gefnogaeth helaeth ymysg y bobl.

Datganoli yn ôl ar yr agenda’

“Mae’n rhoi’r iaith ac ymreolaeth Llydaweg, neu o leiaf datganoli yn ôl ar yr agenda, fel y gwelwyd yn ymgyrch lwyddiannus Gwynfor Evans dros Blaid Cymru yng Nghaerfyrddin ym 1966.

“Yn wleidyddol, mae’n ddiddorol ac yn dangos hefyd fod Llydaw wedi pleidleisio bron yn unfrydol dros y Sosialwyr, rhywbeth na fyddai unrhyw un wedi rhagweld 30 mlynedd yn ôl pan oedd y wlad yn geidwadol.

“I’r iaith, mae wedi bod yn etholiad da, nid yn unig oherwydd Molac, ond hefyd gyda Jean-Jacques Urvoas yn cadw’i sedd yn Kemper, a Jean Luc Bluenven, siaradwr Llydaweg arall, yn ennill.

Yn ôl cyfrifiad yn 2007, mae dros 200,000 o bobl yn siarad Llydaweg yn Llydaw.