Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ymosodiad difrifol ar ddynes 21 oed yn ardal Newton Green, Aberhonddu, nos Lun.
Cafodd y ddynes ei thrywanu yn ystod yr ymosodiad a ddigwyddodd tua 6.34pm. Cafodd ei chludo i Ysbyty Neville Hall lle mae hi mewn cyflwr sefydlog ar hyn o bryd.
Mae dyn 22 oed o ardal Aberhonddu wedi’i arestio mewn cysylltiad â’r ymosodiad ac yn cael ei gadw yn y ddalfa.
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101.