Mae Cadeirydd mudiad y Ffermwyr Ifanc yn rhybuddio y gallai cynlluniau rhai o siroedd Cymru i dorri’n rhydd wanhau’r mudiad.

Mewn cyfweliad ar raglen Hacio heno ar S4C mae Cadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru a Lloegr, James Williams, yn rhybuddio y byddai’n golled i’r ddwy ochr petai clybiau Cymru yn torri’n rhydd wrth Loegr.

“Mae’n hynod bwysig bod Cymru’n parhau’n rhan o Ffederasiwn y Ffermwyr Ifanc,” meddai James Williams.

“Gyda’n gilydd rydym ni’n llawer cryfach.”

Daw ei sylwadau ar drothwy cyfarfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn Llanelwedd ddydd Sadwrn, ble mae disgwyl i ddwy o 12 ffederasiwn sirol CFfI Cymru ddatgan eu bod am dorri’n rhydd wrth y CFfI yn Lloegr.

Mae’n debyg bod aelodau Ynys Môn ac Eryri bellach wedi pleidleisio o blaid torri’n rhydd wrth fudiad Cymru a Lloegr – yr NFYFC – o fis Medi ymlaen, ac ymaelodi’n uniongyrchol â Chymru.

Yn ôl Cadeirydd NFYFC, James Williams, mae’r penderfyniad yn ergyd i’r mudiad ar ei hyd.

“Bydd hi’n golled fawr i’r ddwy ochr. Mae’n siomedig iawn eu bod nhw eisiau torri’n rhydd,” meddai.

Dwy sir am wahanu wrth Loegr

Daw’r drafodaeth ddiweddaraf am ddyfodol y mudiad yn sgil cynnig newydd gan ffederasiwn sirol Ynys Môn i dorri’n rhydd wrth yr NFYFC.

Mae aelodau’n dadlau nad ydyn nhw’n cael gwerth am arian o’r berthynas â Lloegr, ac y bydden nhw’n elwa mwy o dalu aelodaeth yn syth i Gymru.

Dan y drefn bresennol mae holl arian aelodaeth Cymru yn cael ei dalu’n syth i bencadlys y mudiad yn Stoneleigh, yn Lloegr, cyn i 50% o’r arian gael ei ddychwelyd i swyddfa Cymru yn Llanelwedd.

Wrth fod yn rhan o NFYFC mae aelodau Cymru yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chystadlaethau gyda chlybiau o Loegr, ond ni fydd hyn yn digwydd i’r un graddau petai’r ddau ffederasiwn yn gwahanu.

Er bod perthynas CFfI Cymru a Lloegr wedi cael ei drafod sawl tro yn y gorffennol gan y mudiad, tan eleni bu’n rhaid i ffederasiynau sirol CFfI Cymru benderfynu ar y cyd.

Y tro hwn bydd bob ffederasiwn unigol yn cael y cyfle i benderfynu a fyddan nhw’n torri’n rhydd wrth Loegr.

‘Dim cau’r drws’

Ond mae Cadeirydd NFYFC yn addo na fydd penderfyniad Ynys Môn ac Eryri yn rhoi terfyn parhaol ar y berthynas rhyngddyn nhw.

“Gobeithio y gallwn ni drafod y mater drwodd gyda nhw,” meddai James Williams.

“Yn sicr dydyn ni ddim yn eu taflu nhw allan. Does dim un ffordd y byddai hynny’n digwydd.

“Eu penderfyniad nhw yw hyn, ac os fyddan nhw byth yn gobeithio ail-ymuno, yna’n sicr bydd y drws yn agored.”

Yn ôl James Williams, mae’r drafodaeth hefyd yn gyfle i ystyried beth yw’r problemau sydd wedi arwain at y rhwyg diweddaraf.

“R’yn ni eisiau cyrraedd at galon pam fod aelodau eisiau torri’n rhydd a gwneud yn siŵr, yn y dyfodol, y gallwn ni gynnig mwy i aelodau i wneud yn siŵr eu bod nhw’n aros, a gobeithio y bydd y siroedd hyn yn dod yn ôl ac yn ail-ymuno.”