Mae trefnwyr sioeau amaethyddol Llanelwedd wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi gwneud elw “iach” yn ystod 2011, er gwaethaf y dirwasgiad.

Dywedodd Cymdeithas Frenhinol Amaethyddol Cymru fod y Sioe Wanwyn, y Sioe Fawr a’r Sioe Aeaf wedi gwneud elw o £264,868.

Yng nghyfarfod blynyddol y Gymdeithas dywedodd y Cadeirydd David Lewis fod y Gymdeithas wedi llwyddo i wrthsefyll y cyni ariannol a chyhoeddi canlyniadau “clodwiw”.

“Mae canlyniadau fel yma, yn enwedig pan fo’r economi mor fregus, yn destun balchder sy’n tanlinellu cryfder y gymdeithas a’r gefnogaeth sydd iddi gan y cyhoedd.”

“Mae edrych i mewn i’r bêl grisial yn beth peryglus ar y gorau, ac yn enwedig felly ar adeg o gyni ac ansicrwydd, ond rwy’n optimistaidd o ran llewyrch y Gymdeithas achos rydym ni’n fudiad gwydn sydd ag aelodaeth gefnogol iawn, nid yn unig o fyd amaeth ond o bob rhan o gymdeithas yng Nghymru a thu hwnt.”

Canmolodd David Lewis bobol Sir Gaernarfon a gododd £220,000 tuag at wella’r prif gylch.

Yn dilyn codi Canolfan Aelodau newydd hefyd dywedodd David Lewis fod asedau’r Gymdeithas Amaethyddol yn werth £11,098,481.

Fis diwethaf aeth 25,000 o bobol i’r Sioe Wanwyn yn Llanelwedd – 1,000 yn is na’r nifer a aeth yn 2011.