Llyn Efyrnwy
Mae profion DNA wedi helpu’r heddlu i adnabod dyn y cafwyd hyd i’w gorff ger Llyn Efyrnwy ym Mhowys ym mis Mai.

Ond dywed Heddlu Dyfed Powys nad ydyn nhw wedi cyhoeddi enw’r dyn am eu bod yn dal i geisio cysylltu â’i deulu.

Cafwyd hyd i gorff y dyn yn rhaeadr Rhiwargor ger Llyn Efyrnwy, Llanwddyn ar 23 Mai.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Diane Davies bod y dyn wedi bod yn byw ym Mhowys cyn ei farwolaeth ond nad oedd unrhyw adroddiadau ei fod ar goll. Yn dilyn apêl am wybodaeth i geisio adnabod y dyn, aeth tri aelod o’r cyhoedd at yr heddlu gydag enw’r dyn.

Mae’r heddlu bellach wedi gallu cadarnhau ei enw drwy brofion DNA.