Tom Maynard
Mae Clwb Criced Surrey wedi cadarnhau fod y cricedwr ifanc o Gymru, Tom Maynard, wedi marw.

Cafodd y chwaraewr 23 oed ei daro yn gynnar y bore yma gan un o drenau tanddaearol Llundain.

Mae Heddlu Trafnidiaeth Llundain wedi dweud fod y gwasanaethau brys wedi cael eu galw i orsaf drenau Wimbledon Park am 5.03yb ond bod y dyn wedi marw yn y fan a’r lle. Nid yw’r heddlu’n ystyried y farwolaeth yn un amheus.

Yn ol rhai adroddiadau, roedd Tom Maynard yn ceisio osgoi’r heddlu pan gafodd ei ladd.

Roedd yr heddlu wedi ceisio stopio car Mercedes du, oedd yn cael ei yrru’n “eratig”, awr cyn i gorff Tom Maynard gael ei ddarganfod ar y cledrau.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Heddlu Metropolitan: “Tua 4.15yb ar ddydd Llun, 18 Mehefin, roedd swyddogion wedi stopio cerbyd oedd yn cael ei yrru’n eratig yn Heol Arthur, SW19.

“Roedd gyrrwr y car – Mercedes du C250 – wedi rhedeg i ffwrdd. Roedd yr heddlu wedi methu dod o hyd i’r dyn.

“Tua 5.10yb cafodd corff dyn ei ddarganfod ar y cledaru yng ngorsaf Wimbledon Park.”

Dywed yr heddlu eu bod yn dal i geisio adnabod y dyn a bod Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) wedi cael eu hysbysu am y digwyddiad.

Dywed yr Heddlu Trafnidiaeth nad ydyn nhw’n tri ei farwolaeth fel un amheus ar hyn o bryd.

Teyrngedau

Roedd Tom Maynard yn fab i gyn-cricedwr a hyfforddwr Morgannwg, Matthew Maynard.

Chwaraeodd Tom Maynard i Forgannwg ar bob lefel cyn cynrychioli tim cynta’r sir yn 2007. Gadawodd yn 2011 i chwarae gyda sir Surrey ac roedd yn fowliwr i’r sir yn ogystal â batiwr.

Mae dau gyn-gapten Lloegr wedi talu teyrnged iddo eisoes ar wefan Twitter. Dywedodd Andrew Flintoff ei fod yn “fachgen gwych” a bod y newyddion yn drasig, a dywedodd Michael Vaughan fod y newyddion yn “ofnadwy o drist.”

Dywedodd Cadeirydd clwb criced Surrey, Richard Thompson, fod Tom Maynard yn “fatiwr ifanc tu hwnt o dalentog” a bod colled mawr ar ei ôl.