Cafodd cerddwr ei anafu’n  ddifrifol ddoe ar ôl bod mewn gwrthdrawiad â char ar yr A48 yn Nhregolwyn ym Mro Morgannwg.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ddydd Sul, am 2.20pm ar ôl i gar Fiat 500 du  daro yn erbyn dyn oedd yn cerdded ar hyd y ffordd.

Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion i’r digwyddiad i gysylltu  â nhw yn Abertawe ar 01792 456999 est 88-331 neu eu gorsaf heddlu leol.