DNA
Y Cymry cynhenid sy’n byw yng nghefn gwlad yw’r Prydeinwyr hynaf yn ôl gwyddonwyr sydd wedi creu mapiau geneteg o drigolion Ynysoedd Prydain.

Canolfan Geneteg Dynol Ymddiriedolaeth Wellcome sy’n gyfrifol am yr ymchwil ac fe fydd Cyfarwyddwr y Ganolfan, yr Athro Peter Donnelly a’i gyd-wyddonwyr yn arddangos y mapiau yn arddangosfa haf y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain ym mis Gorffennaf.

Mae’r ymchwil yn dangos bob pobl Cymru a Chernyw yn wahanol i drigolion de a chanolbarth Lloegr am eu bod yn cario DNA all gael ei olrhain yn ôl i’r llwythau oedd yn byw ym Mhrydain wedi Oes yr Iâ.

Mae’r tras geneteg yma gryfaf ymhlith y Cymry.

Dywed yr Athro Donnelly nad yw’n glir pam bod proffil geneteg y Cymry a thrigolion Cernyw mor gryf ac mor debyg hefyd i broffil trigolion Iwerddon a Ffrainc.

Mae’r gwaith ymchwil hefyd yn dangos mai proffil geneteg trigolion ynysoedd yr Orkney ydi’r un mwyaf neilltuol gan ei fod yn profi mai Llychlynwyr ydyn nhw.

Roedd y Llychlynwyr yn rheoli’r ynysoedd yma o 875 i 1472.

Yr ymchwil

Fe wnaeth y gwyddonwyr astudio’r gwahaniaethau mewn 500,000 o bwyntiau yn DNA 2,000 o bobl oedd yn byw yng nghefn gwlad ac oedd gan bedwar nain a thaid oedd hefyd wedi eu geni yn yr un ardal.

Dywedodd yr Athro Donnelly y bydd yr wybodaeth yma yn ddefnyddiol wrth astudio sut mae afiechydon yn cael eu cario o genhedlaeth i genhedlaeth ac y bydd hefyd o fudd garw wrth astudio hanes mudo i ac o gwmpas  Ynysoedd Prydain ers diwedd Oes yr Iâ.