Canol dinas Bangor
Mae Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler ymhlith y rhai sydd wedi beirniadu cynllun i wahardd pobl ifanc dan 16 oed o ganol dinas Bangor rhwng 9.00 yr hwyr a 6.00 y bore oni bai eu bod nhw yng nghwmni rhiant neu “oedolyn cyfrifol.”

Mae gorchymun gwasgaru gan Heddlu Gogledd Cymru yn dod i rym yfory ac os na fydd pobl ifanc yn cydymffurfio yna fe fydd yr heddlu yn mynd a nhw adref neu i fan diogel os mai dyma fydd fwyaf addas.

Gall gwrthod cydymffurffio olygu hyd at dri mis yn y carchar a/neu ddirwy o hyd at £2500.

Mae’r cynllun yn anheg medd y Comisiynydd ac yn “creu demoniaid o blant dan 16 oed, yn eu hynysu oddi wrth eu cymunedau, eu pellhau oddi wrth yr heddlu ac yn lledaenu’r camargraff bod pobl ifanc i gyd yn achosi trwbwl.”

Ychwanegodd bod gan yr heddlu ddigon o bwerau eisoes i weithredu yn erbyn y rhai sy’n achosi trais mewn mannau cyhoeddus a dywedodd ei fod yn fwy na pharod i drafod dulliau eraill efo’r heddlu i ymateb i’r broblem ym Mangor.

Mae cyfarwyddwr yr ymgyrch dros hawliau sifil, Big Brother,  hefyd wedi beirniadu’r cynllun yn chwyrn.

“Mae dweud bod unrhyw un dan 16 oed sydd ar ei ben ei hun rhwng 9 y nos a 6 y bore yn droseddwr y math o gyfraith llym yr ydach chi’n ei ddisgwyl yng Ngogledd Korea nid gogledd Cymru, meddai Nick Pickles.

Manylion

Mae’r gwaharddiad yn effeithio ar 24 o strydoedd a pharciau yng nghanol dinas Bangor a bydd yn parhau am chwe mis er mwyn taclo ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Dyma’r tro cyntaf i waharddiad o’r fath gael ei ddefnyddio yn y ddinas, ac mae’n dod i rym ar ôl pryderon am bobl ifanc yn yfed ar y stryd.

Mae’r Arolygydd Simon Barrasford o Heddlu Gogledd Cymru yn bendant y bydd y gwaharddiad yma yn gwella’r awyrgylch yng nghanol y ddinas.

“Mae llawer o bobl yn gweithio yn galed iawn i wella ac adfywio canol y ddinas yn ogystal a bod eisiau mwynhau eu bywyd beunyddiol heb gael eu bygwth a’u hambygio a does dim dwywaith gen i y bydd y gorchymyn yma yn gymorth garw yn hyn o beth,”meddai.

Ychwanegodd bod yfed mewn mannau cyhoeddus ym Mangor yn cael effatih andwyol nid yn unig ar ganfyddiad ymwelwyr ond hefyd ar safon byw y trigolion.