Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn annog pobl i fod ar eu gwyliadwriaeth heno gan fod disgwyl rhagor o law trwm a gwyntoedd cryfion.

Mae ’na rybudd y gallai glaw trwm ym Mhowys a Gwynedd arwain at lifogydd mewn mannau.

Daw’r cyhoeddiad wrth i’r gwaith o glirio’r llanast wedi’r llifogydd yng Ngheredigion dros y Sul barhau.

Roedd hyd at bum troedfedd o ddŵr wedi llifo drwy rannau o Aberystwyth gan gynnwys Talybont, Dol-y-Bont a Llandre.

Mae rhai teuluoedd wedi gwybod y bydd yn rhaid iddyn nhw adael eu cartrefi am hyd at chwe mis tra bod y difrod yn cael ei atgyweirio.

Dywed swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd y bydd glaw trwm a gwyntoedd cryfion yn y rhan fwyaf o lefydd yng Nghymru heno, a’u bod yn monitro lefelau afonydd.

Mae disgwyl i’r glaw trwm barhau nos Wener hyd at ddydd Sadwrn.