Shân Cothi ac Ifan Jones Evans
Mae aelod o’r gymuned Romani yn gobeithio bydd cyfres o raglenni ar S4C yn codi ymwybyddiaeth o hanes y sipsiwn ac yn “gwrthbwyso rhai o’r rhagdybiaethau negyddol yn y cyfryngau.”

Mewn cyfres fer ar Y Sipsiwn bydd Ifan Jones Evans a Shân Cothi yn treulio wythnos yn crwydro  arfordir gorllewin Cymru  mewn carafán sipsi, neu ‘varda’, ac yn cwrdd gyda phobol o dras Romani er mwyn dysgu mwy am eu diwylliant.

Mae cyfarwyddwr Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani yng Nghaerdydd, Isaac Blake, wedi mynegi ei obaith y bydd y gyfres yn herio stereoteipiau a mythau am y sipsiwn.

Bydd cyfres Y Sipsiwn yn cyflwyno eitemau am draddodiadau, cerddoriaeth, a diwylliant y sipsiwn yng Nghymru a thu hwnt, ac yn edrych ar hanes Abram Wood, ‘tad’ y sipsiwn Cymreig.

Yn debyg i gyfres arall gan S4C ar y Porthmon, bydd digwyddiad lleol yn cyd-fynd gyda phob rhaglen fyw a fydd yn dilyn taith y garafán.

Taith y garafán

Mae cyfres Y Sipsiwn yn cychwyn ar nos Iau 21 Mehefin yng ngwersyll yr Urdd Llangrannog a dydd Llun 25 Mehefin, bydd y varda yn cychwyn ar ei thaith am Aberteifi.

Ddydd Mawrth 26 Mehefin, bydd y varda yn teithio i Gastellnewydd Emlyn ble bydd beirdd yn dathlu treftadaeth lenyddol y Romani mewn digwyddiad yn Neuadd Emlyn a’r castell.

Ar ddydd Mercher 27 Mehefin bydd y garafán a’i dilynwyr yn cyrraedd Crymych.

Trefdraeth fydd y lleoliad ar ddydd Iau 28 Mehefin.  Ar y Parrog bydd y Clwb Hwylio lleol yn cynnal noson o gerddoriaeth fyw gan Lowri Evans a RADWM.

Ar ddydd Gwener 29 Mehefin, bydd twmpath dawns yn cael ei chynnal yn Ysgol Gynradd Glannau Gwaun yn Abergwaun.

Ar nos Sadwrn 30 Mehefin, bydd y gyfres yn cyrraedd pen ei thaith yn Nhafarn Sinc, Rosebush, ble bydd noson o gerddoriaeth Jazz Sipsiwn, y delyn deires, a dawnsio traddodiadol.

Tymor y Sipsiwn ar y sianel

Mae rhaglenni pellach yn ystod tymor y sipsiwn ar S4C yn edrych ar hanes y sipsiwn yng Nghymru a bywyd presennol y Sipsiwn Romani, a rhaglen am gerddoriaeth y sipsiwn.

Yn ogystal mae S4C yn ail-ddarlledu ffilmiau Tân ar y Comin, oedd yn seiliedig ar nofel T.Llew Jones, ac Eldra, a seiliwyd ar fywyd cynnar Eldra Jarman, Romani o ogledd Cymru.

“Dw i’n edrych ymlaen at ddeffro atgofion pobl o’r Sipsiwn Romani a’r modd y maen nhw wedi cyfoethogi’n diwylliant ni,” meddai Dyfrig Davies, Uwch Gynhyrchydd y gyfres ar S4C.