Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn buddsoddi £1bn dros y tair blynedd nesa’ ar gyfres o brosiectau yng Nghymru a Swydd Henffordd.

Mae’r cynllun yn cynnwys £100m o arian ychwanegol ar brosiectau nad oedd, yn wreiddiol, wedi’u bwriadu ar gyfer y cyfnod buddsoddi pum mlynedd hyd at 2015.

Yn ôl Dŵr Cymru, fe fydd y cynllun newydd yn gwella’r gwasanaeth trwy wneud gwaith uwchraddio yng nghanolfannau trin dŵr Llyswen a’r Bala ym Meirionnydd, ac yn Aberporth, Ceredigion; yn ogystal â datblygu gwaith trin carthion Wrecsam. Fe fydd hefyd yn diogelu 1,500 o swyddi.

“Ein huchelgais ni ydi delifro’r gorau gallwn ni i’n cwsmeriaid,” meddai Bob Ayling, Cadeirydd Glas Cymru, y cwmni dielw sy’n rhedeg adain Dŵr Cymru.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu dŵr yfed o’r safon ucha’, ac edrych ar ôl yr amgylchedd ar ran y cymunedau yr ydyn ni’n eu gwasanaethu.

“Mae model Glas Cymru yn golygu mai ein blaenoriaeth yw edrych ar ôl ein cwsmeriaid, yn ogystal â gofalu am isadeiledd Dwr Cymru ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod,” meddai wedyn.