Mae Cyngor Sir Powys wedi ymuno â Craff am Wastraff Cymru i annog trigolion y sir i wneud ymdrech arbennig yn ystod Wythnos Ailgylchu, 18-24 Mehefin.

Mae aelwydydd Cymru yn defnyddio 725,000 o boteli plastig bob dydd ar gyfartaledd. Ond ar hyn o bryd, dim ond tua hanner y rhain sy’n cael eu hail-gylchu.

“Pe byddai pawb yng Nghymru yn ail-gylchu dim ond un botel blastig ychwanegol yn ystod yr Wythnos Ailgylchu, byddai modd arbed digon o ynni i redeg tua 3,500 teledu plasma am flwyddyn,” meddai Steve Holdaway, Pennaeth Gwasanaeth Lleol ac Amgylcheddol, Powys.

“Os gallwn annog pobol i newid eu hymddygiad a dechrau ailgylchu cymaint â phosib, bydd y gwahaniaeth dros yr haf pan fyddwn yn yr awyr agored ac yn debygol o greu llawer mwy o wastraff yn enfawr.

“Mae osgoi eitemau fel cwpanau a phlatiau papur a napcynnau yn ddelfrydol, ond lle mae’r gwastraff yn anochel, mae angen chwarae eich rhan ac ail-gylchu’r hyn a ddefnyddiwch.

“Os yw gwastraff yn cael ei daflu i ffwrdd, mae’n mynd i safleoedd tirlenwi sydd yn prysur fynd yn brin o le, ac yn cynhyrchu nwyon niweidiol ty gwydr sy’n difrodi’r amgylchedd lleol, felly mae ailgylchu’n ateb llawer gwell i bawb ohonon ni.”