Mae Gweinidog Amgylchedd Cymru wedi cadarnhau fod y cynllun brechu moch daear yn mynd yn ei flaen a bod dros 275 o foch daear wedi cael eu brechu hyd yn hyn.

Ym mis Mawrth cyhoeddodd John Griffiths ei fod yn cyflwyno rhaglen o frechu moch daear er mwyn atal diciáu mewn gwartheg, yn groes i ddymuniad yr undebau amaeth a oedd am weld moch daear yn cael eu difa er mwyn rheoli’r clwyf.

Cyhoeddodd y Gweinidog y byddai’r brechu yn digwydd mewn ardal weithredu yng ngogledd Sir Benfro – rhwng Trefdraeth, Aberteifi a Llanfyrnach, ac mae swyddogion sydd wedi cwblhau cwrs priodol wedi bod yn dal moch daear mewn cawelli ac yn eu brechu.

Dyma’r tro cyntaf i gynllun brechu moch daear gael ei gyflwyno ar raddfa mor fawr, a dywedodd John Griffiths fod y cynllun yn lleihau’r risg o drosglwyddo’r diciáu o foch daear i wartheg.

“Mae ein penderfyniad i frechu yn rhoi elfen o imiwnedd i TB o fewn y boblogaeth moch daear.

“Hoffwn i ddiolch i ffermwyr a thirfeddianwyr am eu cydweithrediad. Byddwn ni’n monitro canlyniadau’r brechu er mwyn sicrháu ein bod ni’n gwneud cynnydd tuag at ein nod o greu Cymru heb ddiciáu.”

Roedd Ymddiriedolaeth y Moch Daear wedi bygwth achos cyfreithiol petai John Griffiths wedi cyflwyno rhaglen o ddifa’r creadur, a dywedodd mudiad Sir Benfro yn erbyn y Difa fod brechu yn well na chael dynion mewn lifrai gwynion yn crwydro gogledd Sir Benfro gyda dryllau.