Mae rhannau o Gymru yn wynebu bygythiad llifogydd unwaith eto ar ôl i broffwydi’r tywydd rybuddio y gallai rhagor o law trwm syrthio heddiw.

Dywed Asiantaeth yr Amgylchedd y dylai pobol yng ngogledd Cymru fod yn ymwybodol y gallai’r glaw achosi llifogydd, wrth i’r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd tywydd garw.

Bydd Cernyw, Dyfnaint, gorllewin Gwlad yr Haf a rhannau o ganolbarth Lloegr hefyd yn cael eu heffeithio.

Mae disgwyl glaw trwm, a mellt a tharanau, yn hwyrach ymlaen heddiw, a allai achosi llifogydd mewn rhai mannau.

Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd mai yng Nghernyw a Dyfnaint y mae’r perygl ar ei uchaf.

“Fe fydd cawodydd glaw trwm, araf a taranllyd yn effeithio ar rannai o Gymru, gorllewin a de orllewin Lloegr yn ystod dydd Mercher,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.

“Fe ddylai’r cyhoedd fod yn ymwybodol ynglŷn â’r perygl y bydd llifogydd.”

Daw’r rhybudd diweddaraf ar ôl i drigolion ac ymwelwyr canolbarth Cymru orfod cael eu hachub a’i symud o’u tai a’u carafanau yn dilyn llifogydd dros y penwythnos.