Mae mwy na 100,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, yn ôl  adroddiad gafodd ei gyhoeddi heddiw.

Cynghrair Henoed Cymru sydd wedi cyhoeddi’r adroddiad – ‘Cymru – Lle Da i Dyfu’n Hen?’ ac mae’n herio Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac asiantaethau eraill i weithredu er mwyn gwella bywydau’r 500,000 o bobl hŷn yng Nghymru.

Mae’r adroddiad, sy’n edrych ar realiti bywyd i bobl hŷn yng Nghymru, hefyd yn dweud bod dros dri chwarter gwragedd a thraean o ddynion sydd dros 65 oed yn byw ar eu pennau eu hunain.

Yn ogystal mae 4 o bob 10 o bobl hŷn yn dweud eu bod yn teimlo’n unig weithiau neu yn aml; tra bod yr un nifer yn dweud mai dim ond cymedrol neu wael yw eu hiechyd.

Dywedodd Angela Roberts, cadeirydd dros dro Cynghrair Henoed Cymru:  “Mae gormod o bobl hŷn yng Nghymru yn wynebu bywyd o dlodi, gyda diffyg gofal cymdeithasol.

“Mae Cynghrair Henoed Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac asiantaethau eraill i weithredu ar frys i wireddu eu haddewidion am gydraddoldeb a thegwch cymdeithasol i bobl hŷn.”

Mae nifer y bobl hŷn yn debyg o gynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf, meddai a heb weithredu mae’r rhagolygon i bobl hŷn “yn edrych yn ddu iawn.”

Cafodd yr adroddiad ei lansio yn Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd heddiw.