Dafydd Wigley
Mae arglwydd newydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley, wedi galw am i unrhyw newidiadau a wneir i’r sianel fod yn destun cytundeb Gweinidogion yn Llywodraeth Cymru.

Yn ei hanfod, byddai hyn yn golygu y byddai gan weinidogion Cymru y grym i rwystro newidiadau yn S4C, meddai.

Fe fydd Mesur Cyrff Cyhoeddus sy’n mynd trwy’r Ail Siambr ar hyn o bryd yn rhoi’r hawl i weinidogion Llywodraeth San Steffan newid neu ddileu S4C heb ymgynghori â’r senedd.

Mae’r Arglwydd Wigley wedi cyflwyno gwelliant i’r mesur fyddai’n gorfodi iddyn nhw gael cytundeb gweinidogion Llywodraeth y Cynulliad cyn gweithredu.

‘Diogelu’

“Os caiff y gwelliant hwn ei basio, bydd yn golygu y bydd angen i Weinidogion y Cynulliad gymeradwyo’r Mesur cyn gallu gweithredu yng nghyswllt S4C,” meddai Dafydd Wigley.

“Fel y saif pethau ar hyn o bryd, gallai Gweinidogion San Steffan gymhwyso darpariaethau’r Mesur i S4C heb unrhyw gytundeb o Gymru.

“Mae’r diffyg camau diogelu yn peri pryder, a dyna pam y byddaf hefyd yn cefnogi gwelliant yr Arglwydd Roger Roberts i eithrio S4C yn llwyr o’r Mesur.

“Fodd bynnag, os bydd hynny’n methu, rwy’n gobeithio fod fy ngwelliant i yn cynnig ffordd arall o ddiogelu’r sianel rhan ymyrraeth Gweinidogion Llundain sy’n gwybod fawr ddim am Gymru, ei hiaith na’i diwylliant – ac yn poeni llai am yr effaith o ran swyddi a gollir a allai ddod yn sgil tanseilio’r sianel fel hyn ac oherwydd y Mesur hwn.”

Dyma’r cyfle cyntaf a gafodd yr Arglwydd Wigley i gynnig gwelliannau ffurfiol i ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar Gymru ers iddo gael ei benodi i’r Ail Siambr dair wythnos yn ôl.

Mae’r Arglwydd Wigley yn gyn-aelod o Awdurdod S4C ac ef oedd Cadeirydd Pwyllgor Archwilio’r sianel yn ystod y cyfnod hwnnw.