Mae’r heddlu’n ymchwilio i ladrad ar ôl i grŵp o ddynion ymosod ar swyddog diogelwch wrth iddo lenwi peiriant twll yn y wal yng Nghaerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i archfarchnad Waitrose ar barc diwydiannol ym Mhentwyn tua 11.45am ddoe.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod dyn wedi cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ond mae’n debyg nad yw ei anafiadau yn ddifrifol.

Roedd y lladron wedi dwyn swm sylweddol o arian o’r peiriant cyn dianc o’r safle mewn fan wen. Mae’r heddlu bellach wedi dod o hyd i’r fan ac yn cynnal profion fforensig.

Cafodd yr archfarchnad ei gau am gyfnod tra bod ditectifs ar y safle.

Er bod yr ymosodiad yn cael ei drin fel lladrad arfog mae’n debyg na chafodd gwn ei ddefnyddio yn y digwyddiad.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad neu a welodd fan wen yn gadael y safle tua 11.45am i gysylltu â nhw ar 01656 655555 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555111.