Alun Ffred Jones
Mae’r Mesur Iaith Gymraeg wedi derbyn sêl bendith y Frenhines heddiw.

Cafodd y gymeradwyaeth ei rhoi ar ôl cyfarfod y Cyfrin Gyngor ac mae’n golygu bod y Mesur, a gafodd eu cymeradwyo gan y Cynulliad ym mis Rhagfyr, nawr yn gyfraith.

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad fod y mesur yn cyflawni tri o ymrwymiadau Cymru’n Un.

Mae’n cadarnhau statws swyddogol yr iaith, yn darparu’r modd i sefydlu hawliau ieithyddol wrth ddarparu gwasanaethau, ac yn sefydlu Comisiynydd Iaith medden nhw.

“Mae’r Gymraeg yn destun balchder i bobl Cymru, p’un a ydynt yn ei siarad neu beidio ac rwy’ wrth fy modd felly bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo’r Mesur,” meddai’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones.

“Rwy’n falch fy mod wedi cael llywio’r ddeddfwriaeth trwy’r Cynulliad sy’n cadarnhau statws swyddogol yr iaith; sy’n creu eiriolydd cryf dros siaradwyr y Gymraeg ac a fydd yn cynyddu’n sylweddol nifer y gwasanaethau fydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Rwy’n credu dylai pawb sydd eisiau derbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, gael y cyfle i wneud hynny, a dyna beth mae’r llywodraeth yma wedi bod yn gweithio tuag ato. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn gam pwysig a hanesyddol ymlaen i’r iaith, eu siaradwyr ac i’r genedl.”