Canolfan Nant Gwrtheyrn
Mae canolfan iaith Nant Gwrtheyrn wedi dweud gall pobol o ogledd Cymru fynd ar gwrs preswyl yn y ganolfan am bris tipyn rhatach nag y bydd pobol eraill yn talu.

Dywed Nant Gwrtheyrn eu bod nhw’n gwahodd ceisiadau am ostyngiad gan bobol sydd yn “byw, gweithio, gwirfoddoli neu’n gweithio er lles ardal wledig yng Ngogledd Cymru”, ac sydd am ddysgu Cymraeg neu loywi eu sgiliau yn yr iaith.

Bydd pobol sy’n gymwys am ostyngiad yn talu £125 am gwrs preswyl yn hytrach na’r £495 arferol.

Dywed Llinos Griffin o Ganolfan Nant Gwrtheyrn na fydd pobol sy’n byw mewn ardal drefol yn y gogledd yn gymwys am ostyngiad o reidrwydd oni bai eu bod nhw’n gweithio neu’n gwirfoddoli mewn ardal wledig.

“Mae gyda ni system sgorio ac rydan ni’n chwilio yn benodol am bobol sydd eisoes wedi dechrau dysgu Cymraeg ac am ddod yn fwy rhugl, neu bobol sydd yn ei siarad hi’n rhugl ond am fireinio eu sgiliau ysgrifenedig,” meddai Llinos Griffin.

“Mae’r cynnig ar agor ers tair wythnos ac rydan ni eisoes wedi cael ceisiadau, ac mae’r cynllun yn rhedeg am dair blynedd arall,” ychwanegodd Llinos Griffin.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Canolfan Nant Gwrtheyrn www.nantgwrtheyrn.org