Iona Jones
Roedd cael gwared ar gyd-brif weithredwr S4C, Iona Jones, yn gam hanfodol er mwyn cael gwared ar system nad oedd yn gweithio.

Dyna farn Rheon Tomos, Is-gadeirydd Awdurod S4C, wrth i adroddiad newydd annibynol am y sianel gael ei ryddhau heddiw.

Mae’r adroddiad gan Jon Shortridge yn beio trefn lywodraethol S4C am y problemau diweddar o fewn y sianel.

Yn ôl yr adroddiad, sydd wedi’i gomisiynu gan Awdurdod S4C, roedd gormod o benderfyniad pwysig wedi eu gwneud gan reolwyr y sianel.

“Roedd gormod o benderfyniadau wedi eu gwneud gan y rheolwyr ddylai fod wedi mynd at yr Awdurdod, a doedd yna ddim digon o dryloywder,” meddai’r adroddiad.

“Pan oedd rhaid i aelodau’r Awdurdod ddod i benderfyniad roedden nhw’n aml yn teimlo nad oedd yna ddigon o amser ac nad oedden nhw’n cael y wybodaeth oedd ei angen er mwyn penderfynu.

“Roedden nhw hefyd heb wybodaeth oedd ei angen er mwyn gallu asesu penderfyniadau a pherfformiad y rheolwyr.”

Iona Jones

Dywedodd Rheon Tomos wrth Golwg 360 bod yr Awdurdod wedi bod yn anhapus â’r system o arwahanrwydd rhyngddyn nhw a’r rheolwyr ers 2008.

Roedd diswyddo Iona Jones yn rhan o gael gwared ar y system hwnnw a symud y broses yn ei flaen, meddai.

“Roedd Iona Jones yn bennaeth ar y tîm rheoli ac roedd hi’n gyndyn iawn i wneud unrhyw newidiadau,” meddai Rheon Tomos.

“Er mwyn gallu dod a’r system newydd i mewn roedden ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n cael gwaed newydd.”

Dywedodd nad bai unrhyw unigolyn penodol oedd hi nad oedd y system yn gweithio, ond y modd yr oedd hi wedi ei threfnu.

“Roedd dogfennau wedi eu llunio oedd yn dangos beth oedd rolau gwahanol unigolion o fewn y system oedd doedd y rheini ddim wedi gweithio’n iawn,” meddai.

“Doedden ni erioed wedi cyrraedd y pwynt ble’r oedd pawb yn hapus ac wedi penderfynu yn gynnar iawn yn 2008 fod angen gwelliannau.”

Dywedodd ei fod wedi anghytuno â barn John Walter Jones, oedd yn teimlo nad haf 2010 oedd yr amser cywir i gael gwared ar Iona Jones.

Roedd y gwelliannau oedd wedi eu gwneud ers ymadawiad Iona Jones yn dangos eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad cywir, meddai.

“Ers hynny rydyn ni wedi symud ymlaen yn gyflym iawn ac wedi cyd-weithio’n llawer mwy pendant gyda rheolwyr y sianel,” meddai Rheon Tomos.

“Mae Prif Weithredwr dros dro [Arwel Ellis-Owen] wedi dod i mewn ac rydyn ni wedi cydweithio’n dda iawn gyda fo.”