Afon yn gorlifo ym Machynlleth
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi dweud nad oedd gwasanaeth rhybudd penodol gyda nhw ar gyfer yr afon a achosodd y mwyaf o ddifrod yn llifogydd gogledd Ceredigion, sef afon Leri.

Ddoe galwodd Aelod Seneddol Ceredigion ar Asiantaeth yr Amgylchedd i gynnal ymchwiliad llawn i’r llifogydd, a dywedodd Gweinidog Amgylchedd Cymru, John Griffiths, fod angen gweld a oes gwersi i’w dysgu o’r hyn ddigwyddodd.

Mewn ymateb dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd fod ganddyn nhw nifer o fesuryddion ar draws y wlad sy’n rhybuddio am lifogydd a’u bod nhw wedi cyhoeddi rhybuddion am lifogydd ar gyfer afonydd bychain yng Ngogledd Ceredigion a dalgylch Dyfi yn ystod prynhawn a nos Wener.

“Ond nid yw hi’n bosib darparu gwybodaeth fanwl ar gyfer pob rhan o bob afon, felly rydym ni’n blaenoriaethu ardaloedd ble mae perygl o lifogydd ar ei mwyaf,” meddai Asiantaeth yr Amgylchedd.

“Rydym ni’n mesur y perygl o lifogydd drwy asesu’r nifer o eiddo sydd mewn peryg, y lefel o amddifadedd cymdeithasol, hanes blaenorol o lifogydd a chyflymder a dyfnder y dŵr, ac os oes amddiffynfeydd llifogydd mewn lle.

“Mae’r perygl o lifogydd o’r Afon Leri yn golygu nad ydym wedi sefydlu gwasanaeth rhybudd penodol ar ei chyfer.”

Llifogydd yn dod yn fwy cyffredin

Dywed yr Asiantaeth fod y glaw dros y penwythnos yn “eithafol” ac mai’n anaml iawn y byddan nhw’n disgwyl gweld llifogydd tebyg i’r hyn a ddigwyddodd.

Maen nhw wedi dweud y byddan nhw’n ychwanegu at  nifer y lleoliadau sy’n derbyn rhybudd wrth i’r Asiantaeth ehangu’r rhaglen rhybuddio llifogydd.

“Gyda’r newid yn yr hinsawdd, mae’n bosibl y gall llifogydd fel hyn ddigwydd yn fwy cyson” meddai Asiantaeth yr Amgylchedd.

“Fe fyddwn ni’n ymweld â’r meysydd gwersylla dan sylw i helpu codi ymwybyddiaeth a gwrthsefyll llifogydd rhag ofn i rywbeth fel hyn ddigwydd eto.”

Mae Arweinydd Cyngor Ceredigion wedi lansio apêl er mwyn codi arian i’r trigolion a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd dros y penwythnos. Dywedod Ellen ap Gwyn, sy’n cynrychioli ardal Talybont ar y cyngor, fod pobol dros eu 90 oed ym mhentref Talybont heb weld y fath lifogydd erioed wrth i afon Eleri orlifo trwy’r pentref.