Katherine Jenkins
Mae’r gantores Gymreig, Katherine Jenkins, wedi ymuno ag ymgyrch i godi arian i helpu athletwyr Prydeinig yn y Gêmau Olympaidd.

Mae hi’n un o nifer o sêr sy’n cefnogi gwerthiant sgarff Olympaidd, gyda’r elw’n mynd i gefnogi’r athletwyr.

Mae sïon hefyd y bydd y gantores o Gastell Nedd yn cymryd rhan yn seremoni agoriadol y Gêmau – dyw hi ddim yn rhoi sylw ar hynny ond mae wedi awgrymu y bydd yn cymryd rhan “mewn gwahanol ffyrdd”.

Mae fersiynau bach a mawr o’r sgarffiau’n cael eu gwerthu yn siopau Next, gyda dau wahanol gynllun – un i gefnogi athletwyr y Gêmau cyffredin a’r lleill i gefnogi’r Gêmau Paralympaidd.

‘Llawn cyffro’

“Rwy’n ferch falch o Gymru ac, ar ôl byw yn Llundain am bron 14 mlynedd, rwy’n llawn cyffro bod yr Olympics yn dod yma,” meddai mewn datganiad gan y cwmni cysylltiadau cyhoeddus, Pitch PR.

“Mae’n beth anferth … mae’n debyg na welwn ni ddim byd tebyg eto yn ein hoes ni,” meddai, a hithau newydd gael sylw rhyngwladol am ddod yn ail mewn cystadleuaeth ddawnsio ar deledu’r Unol Daleithiau.

Yn ôl adroddiadau papur newydd, mae’r sgarffiau’n cael eu gwneud yn India, Portiwgal a Thwrci.