Mae rhan o draffordd yr M4 wedi cau ar ôl i gar fynd ar dân yn nhwneli Brynglas, Casnewydd, meddai’r heddlu.

Dechreuodd y tân am 11.07am oherwydd nam ar y cerbyd, meddai Heddlu Gwent.

Agorodd y twnnel i gyfeiriad y dwyrain ar ôl mwy nag awr, ond newydd agor mae’r twnnel i gyfeiriad y gorllewin.

Dywedodd yr heddlu bod traffig wedi cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A48 tra’r oedd y ffordd ar gau. Mae yna adroddiadau am dagfeydd ger cyffyrdd 24 a 28 yr M4.