Mae grŵp ymbarél wedi ysgrifennu llythyr at Lywydd y Cynulliad yn galw ar y Cynulliad i “roi arweiniad i holl sefydliadau Cymru ynghylch eu triniaeth o’r Gymraeg.”

Mewn llythyr at Rosemary Butler dywed Mudiadau Dathlu’r Gymraeg eu bod nhw’n canmol argymhellion pwyllgor trawsbleidiol sy’n galw ar Gomisiwn y Cynulliad i ddarparu cofnod cwbl ddwyieithog o drafodaethau’r Senedd a’r pwyllgorau.

“Gwerthfawrogwn yn fawr iawn y gefnogaeth ymarferol a ddangoswyd gan y pwyllgor i’r Gymraeg yn eu hadroddiad,” medd y llythyr gan Dafydd Idris Edwards ar ran Mudiadau Dathlu’r Gymraeg.

“Mae profiadau llawr gwlad ein haelodau yn profi fod gwir angen newid: o’r plant sy’n methu cael mynediad at wersi nofio cyfrwng Cymraeg i’r henoed sy ‘n methu derbyn triniaeth yn eu mamiaith.

“Gall y Cynulliad wneud gwahaniaeth iddyn nhw gan eich bod, fel sefydliad, yn gosod esiampl i holl sefydliadau eraill yng Nghymru ar y mater hwn,” medd y llythyr.

Cost y Cofnod

Fis diwethaf camodd papur newydd y Western Mail i ganol y ddadl dros gofnod dwyieithog gyda thudalen flaen oedd yn dweud bod gwario £400,000 ar gofnod Cymraeg yn “foethusrwydd na allwn ei fforddio”, ond dywed llythyr Mudiadau Dathlu’r Gymraeg fod y costau yn rhesymol.

“Gobeithiwn y byddwch yn cytuno â ni nad yw goblygiadau ariannol y cynlluniau a amlinellwyd gan adroddiad y pwyllgor yn afresymol gan eu bod yn costio llai nag 1% o holl wariant y Comisiwn.

“Fel grŵp o fudiadau, rydym yn pryderu am ddefnydd isel y Gymraeg yn y Cynulliad ar hyn o bryd. Nodwn ymhellach bod buddsoddiad Comisiwn y Cynulliad yn y Gymraeg wedi cwympo o dros 14% dros y 3 blynedd diwethaf tra bod y gyllideb yn gyffredinol wedi cynyddu’n fwy na lefelau chwyddiant.”

Mae’r grŵp yn gofyn i’r Cynulliad “anfon neges at holl bobl Cymru fod y Gymraeg yn drysor sy’n perthyn  i bawb, a chynnig gobaith y gallwn ddisgwyl gwelliant sylweddol o ran ansawdd y gwasanaethau Cymraeg a gynigir drwy Gymru benbaladr.”

Daeth Comisiwn y Cynulliad i’r casgliad bod angen adfer Cofnod dwyieithog ym mis Gorffennaf 2011, gan ddefnyddio cyfieithwyr proffesiynol i olygu’r cyfieithiad electronig.

Fis diwethaf dwedodd pwyllgor craffu o fewn y Cynulliad y dylai’r Cofnod fod yn gwbl ddwyieithog ar gyfer holl drafodaethau’r Cynulliad.