Mae dynes 65 oed wedi marw mewn tân yn ardal Townhill, Abertawe.

Galwyd yr heddlu a diffoddwyr tân i dŷ dau lawr ar Stryd Dyfed toc wedi 6.30am.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu nad oedden nhw’n ystyried y tân yn un amheus ac roedd ymchwiliad ar y cyd i beth achosodd iddo gynnau.

Ychwanegodd y gwasanaethau brys bod dwy injan dân wedi eu galw, a bod y tân wedi dechrau yn ystafell fyw’r tŷ.

Mae’r teulu a’r crwner wedi cael gwybod.