Mae Aelod Seneddol Ceredigion wedi dweud ei bod hi’n “hollol annerbyniol” fod rhai o drigolion gogledd Ceredigion yn gorfod disgwyl am ddyddiau i gael ymateb gan eu cwmnïau yswiriant yn dilyn y llifogydd yn yr ardal.
Dywedodd Mark Williams fod angen i’r cwmnïau yswiriant sicrhau eu bod nhw’n ymateb yn gyflym ac yn prosesu ceisiadau cyn gynted â phosib.
“Mae rhai o fy etholwyr wedi dweud eu bod nhw wedi bod yn ffonio llinell argyfwng eu cwmni yswiriant dros y penwythnos, a’u tŷ nhw yn llawn dŵr, dim ond i gael peiriant ateb yn dweud ‘Nid oes neb yma ar hyn o bryd. Cysylltwch nôl gyda ni ddydd Llun’.
“Mae hynna’n hollol annerbyniol ac mae angen i’r cwmnïau ymateb ar frys i geisiadau. Nid yw pob cwmni wedi bod yn araf i ymateb ond mae fy etholwyr wedi dweud wrtha i fod rhai yn euog o hynny.
“Mae rhai pobol wedi colli popeth ac mae’n dorcalonnus.”
Ymateb chwim y gymuned
Canmolodd Mark Williams ymateb chwim y gymuned leol. “Mae’n ystrydeb fod pobol yn tynnu at ei gilydd ar foment o argyfwng ond yn dyna yn sicr sydd wedi digwydd mewn pentrefi fel Borth lle dw i’n byw.”
“Beth darodd fi oedd pa mor gyflym y digwyddodd y llifogydd ac rwy’n hynod falch fod pobol wedi gallu ymateb mor chwimwth.”
Y bore ‘ma galwodd Mark Williams ar Asiantaeth yr Amgylchedd i gynnal ymchwiliad llawn a dywedodd ei fod wedi siarad gyda nhw ers hynny.
“Mae gan yr Asiantaeth eu gweithdrefnau eu hunain pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd a dwi’n falch o ddweud y byddan nhw’n edrych i mewn i’r rhesymau dros y llifogydd” meddai Aelod Seneddol Ceredigion.
Y prynhawn yma mae Gweinidog Amgylchedd Cymru, John Griffiths AC, yn ymweld â gogledd Ceredigion er mwyn gweld y difrod a chwrdd â thrigolion ac asiantaethau sy’n gweithio i adfer yr ardal.