Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ychwanegu at ffrae sy’n corddi o fewn Llywodraeth y Cynulliad drwy awgrymu bod adran arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi derbyn mwy na’i siâr o gwynion yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig  heddiw derbyniodd Llywodraeth y Cynulliad dros 600 o gwynion am gamweinyddu neu fethiant wrth ddarparu gwasanaeth dros y pum mlynedd diwethaf.

Dywedodd y blaid fod Adran Economi a Thrafnidiaeth y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones wedi derbyn 85 o gwynion dros y cyfnod hwnnw.

Daw’r ystadegau wedi i arweinydd y Blaid gyhuddo rhai o fewn y Blaid Lafur o ledu beirniadaeth amdano.

Ddoe roedd papur newydd y Western Mail yn cynnwys dyfyniadau gan ‘wleidyddion Llafur profiadol’ yn awgrymu eu bod yn siomedig gyda pherfformiad Ieuan Wyn Jones yn swydd y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth.

Yn ôl un dyfyniad dienw, roedd y Dirprwy Brif Weinidog yn cael ei gyhuddo o fod yn “ddolen wan” yn Llywodraeth Cymru’n Un.

Cwynion

Mae’r Ceidwadwyr yn dweud bod Uned Cwynion Llywodraeth y Cynulliad wedi gorfod delio â 637 o gwynion rhwng 2004/05 a 2009/10.

Blwyddyn 2009/10 oedd y prysuraf â 130 o gwynion yn ystod y cyfnod hwnnw.

Cyhuddodd llefarydd economi a thrafnidiaeth yr wrthblaid, Darren Millar, y ffigyrau heddiw yn dilyn cais am wybodaeth ganddo.

“Mae nifer cynyddol y cwynion yn erbyn Llywodraeth y Cynulliad yn awgrymu fod pobol y wlad yn anhapus â Llywodraeth Llafur a Phlaid Cymru,” meddai.

“Mae rhai o’r cwynion yn ymwneud â’r Adran  Economi a Thrafnidiaeth sy’n destun ffrae rhwng Plaid a Llafur ar hyn o bryd.

“Yn hytrach nag ffrae ynglŷn â phwy sy’n gyfrifol am berfformiad gwael yr adran dros y blynyddoedd diwethaf, dylai’r Dirprwy Brif Weinidog weithio’n galetach er mwyn gyrru’r economi yn ei flaen, creu swyddi a chefnogi busnesau sy’n cael trafferth goroesi o ganlyniad i ddirwasgiad y Blaid Lafur.”