Mae’r gwaith o glirio’r llanast wedi’r llifogydd yn ardal Aberystwyth a gogledd Ceredigion, sydd wedi effeithio dros 1,000 o bobl dros y Sul, yn parhau bore ma.
Mae cannoedd o drigolion ac ymwelwyr yn dychwelyd i’w cartrefi a’u carafanau heddiw ar ôl i hyd at bum troedfedd o ddwr lifo drwy rhai pentrefi yng Ngheredigion.
Cafodd 150 o bobl eu hachub o’u cartrefi a maes carafanau ger Aberystwyth ddydd Sadwrn.
Ymhlith y llefydd gafodd eu heffeithio fwyaf oedd Talybont, Dol-y-bont, Llandre, a Phenrhyn-coch.
Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones a’r Prif Weinidog David Cameron wedi rhoi teyrnged i’r timau achub am eu dewrder ac wedi mynegi sioc am faint y difrod.
“Ar ôl treulio nifer o flynyddoedd yn byw ac yn astudio yn Aberystwyth fe gefais i sioc o weld faint o ddifrod a achoswyd gan y llifogydd mewn ardal rydw i’n ei adnabod mor dda,” meddai Carwyn Jones.
“Unwaith eto, ry’n ni wedi gweld dewrder y gwasanaethau brys.”
Dywed arbenigwyr tywydd bod mwy na 3 modfedd o law wedi disgyn o fewn 24 awr ddydd Sadwrn yn Nhrawscoed, Ceredigion tra bod rhai ardaloedd wedi cael mwy na 6 modfedd yn yr un cyfnod.
Pennal
Neithiwr, roedd trigolion Pennal yng Ngwynedd wedi cael gwybod ei bod hi’n ddiogel iddyn nhw ddychwelyd adref.
Cafodd dŵr ei ollwng dan reolaeth o gronfa ddŵr ger y pentref, a chadarnhaodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân ac Achub fod arbenigwyr hefyd wedi gwneud arolwg o’r argae er mwyn cael cadarnhad ei bod yn ddiogel.
Mi gafodd y pentrefwyr eu cynghori i symud o’u cartrefi ddoe gan fod hollt fechan wedi ymddangos yn wal yr argae.
Mi gawson nhw eu symud i Ganolfan Hamdden Bro Dyfi ym Machynlleth ar ôl i ddŵr ddianc o’r gronfa. Mae’r heddlu o’r farn mai tirlithriad achosodd yr hollt yn yr argae.
Mi wnaeth yr heddlu hefyd ofyn i bobl leol ac ymwelwyr â’r ardal i gadw draw o’r pentref.