Rhai aelodau o'r gwasanaethau brys ddoe
Bydd Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Llywodraeth Cymru, yn ymweld â phentref Talybont yng Ngheredigion prynhawn ʼma i weld  beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf, ac i ddiolch i’r rhai fu’n rhan o’r ymdrech fawr i achub pobl ddoe.

Ac mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi sôn am ei sioc wrth weld y difrod yn yr ardal a achoswyd gan y llifogydd.

“Ar ôl treulio nifer o flynyddoedd yn byw ac yn astudio yn Aberystwyth, gefais sioc fawr o weld maint y difrod a achoswyd gan y llifogydd mewn ardal dwi’n ei adnabod mor dda,” meddai.

“Unwaith eto, rydym wedi gweld dewrder nodedig gan ein gwasanaethau brys. Gan weithio mewn amgylchiadau gwirioneddol ddychrynllyd, mi wnaethon nhw sicrhau fod hyd at 1,000 o bobl wedi cael eu symud i ddiogelwch. Diolch i broffesiynoldeb ac ymroddiad y criwiau brys proffesiynol a gwirfoddol, ni wnaeth unrhyw un golli eu bywydau.

“Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’r holl asiantaethau dros yr oriau, dyddiau a’r wythnosau nesaf i gynorthwyo i sicrhau fod normalrwydd yn dychwelyd i’r cymunedau a effeithiwyd cyn gynted â phosib.”