Mae dwy ddamwain angheuol wedi digwydd ar ffyrdd Cymru.
Bu farw beiciwr mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A40 ger Llanymddyfri ddoe.
Digwyddodd y ddamwain dwy filltir i’r de o Lanymddyfri am 5.05 prynhawn ddoe a bu farw’r beiciwr 59 oed o Wiltshire yn y fan a’r lle. Mae ei deulu wedi cael gwybod am ei farwolaeth.
Roedd car a fan camper hefyd yn rhan o’r gwrthdrawiad.
Digwyddodd y ddamwain arall ar Ynys Môn neithiwr ar ffordd fechan ger Rhosgoch. Dim ond un cerbyd oedd yn rhan o’r digwyddiad sef cerbyd 4×4 Isuzu Trooper.
Mi wnaeth dyn lleol farw yn y fan a’r lle.
Galwyd y Gwasanaeth Tân ac Achub a’r Gwasanaeth Ambiwlans i’r digwyddiad.
Mae’r heddlu’n apelio ar dystion i’r ddwy ddamwain i gysylltu â nhw.